Llun trwy Garedigrwydd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor
Photograph courtesy of Archives and Special Collections, Bangor University
~~~~~~~~~~
Dyma ‘Calennig’ sydd ar dudalen 24 o lawysgrif Bangor 2294, sef llawysgrif Morris Edwards (darllenwch fwy o wybodaeth am lawysgrif Morris Edwards yma).
Yn ôl y sillafiad cyfoes, rwyf wedi golygu’r teitl i fod yn ‘Calennig’ yn hytrach ‘na ‘Calenig’. Mae canu Calennig yn cael ei gysylltu â thraddodiadau sy’n croesawu’r flwyddyn newydd (ymddiheuriadau am yr alaw allan o dymor!).
Mae cyfarwyddiadau tempo yn weddol brin yn llawysgrif Morris Edwards ond mae wedi nodi y dylai’r alaw hon gael ei chwarae yn andante, felly cyflymdra cerdded neu yn weddol araf.
Mae’r fersiwn sydd i’w chlywed isod wedi ei recordio gan aelodau o 10 Mewn Bws ar gyfer y blog hwn. Diolch yn fawr iddyn nhw!
~~~~~~~~~~
This is ‘Calennig’, found on page 24 of the Bangor 2294 manuscript, which is Morris Edwards’ manuscript (you can find more information about the Morris Edwards manuscript here).
Calennig tunes and traditions are associated with welcoming the new year (apologies for being out of season in this post!).
Tempo markings are rare in the Morris Edwards manuscript but he notes that this one should be played andante, which means ‘walking pace’ or quite slow.
The version below has been recorded especially for the blog by members of 10 Mewn Bws. A big thanks to them!
~~~~~~~~~~
Ewch yma i weld yr alaw mewn nodiant safonol/Click here to see the tune in standard notation: Calennig
Dyma nodiant abc o’r alaw/Here’s the melody in abc notation: Calennig
Dyma fi a Huw Evans, Catrin O’Neill, Gwen Mairi Yorke ac Ellen Jordan o 10 Mewn Bws yn chwarae’r alaw, os hoffech ddysgu’r alaw wrth glust:
Here’s me with Huw Evans, Catrin O’Neill, Gwen Mairi Yorke and Ellen Jordan from 10 Mewn Bws playing the tune, if you’d like to learn by listening: