Lluniau trwy Garedigrwydd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor
Photographs courtesy of Archives and Special Collections, Bangor University
~~~~~~~~~~
Mae ‘Cnot y Coed’, neu ‘Cnot y Coud/Cynot y Coud’ fel y caiff ei sillafu gan Morris Edwards, yn alaw ar dudalen 20 ei lawysgrif (Bangor 2294. Mae mwy o wybodaeth am y llawysgrif yma).
Mae fersiwn debyg iawn o’r alaw hon gyda geiriau gan Llew Tegid (o dan y teitl ‘Cnot y Coed’ (Uchelwydd)’) yng Nghyfrol The National Songs of Wales (London: Boosey&Co., 1959). Nid yw’n glir os mai cân neu alaw oedd ‘Cnot y Coed’ yn wreiddiol, ond mae ei hymddangosiadau niferus dros gyfnod hir yn awgrymu ei bod wedi bod yn boblogaidd iawn yng Nghymru.
Mae awgrym i ailadrodd dau far (bis neu bys fel mae Edwards wedi ei sillafu) yn yr ail adran. Rwyf wedi penderfynu peidio a gwneud hyn ar gyfer y perfformiad – mae modd ei pherfformio yn y ddwy ffordd.
~~~~~~~~~~
‘Cnot y Coed’ (or ‘Cnot y Coud/Cynot y Coed’ as it’s spelt by Morris Edwards) or mistletoe is on page 20 of Maurice Edwards’ manuscript. See more information about the manuscript here.
There is a very similar version of this tune in Llew Tegid’s The National Songs of Wales (London: Boosey&Co., 1959) under the title of ‘Cnot y Coed (Uchelwydd)’. It unclear if ‘Cnot y Coed’ was originally a tune or a song, but its numerous appearances over a long period of time suggest that it was very popular in Wales.
There is a suggestion to repeat two bars (bis or bys as Edwards spells it) in the second section. I’ve decided not to do this in the performance example below – but it’s definitely possible to perform it both ways.
~~~~~~~~~~
Ewch yma i weld yr alaw mewn nodiant safonol/Click here to see the tune in standard notation: Cnot y Coed
Dyma nodiant abc o’r alaw/Here’s the melody in abc notation: Cnot y Coed
Dyma fi yn chwarae’r alaw ar y ffidil (araf y tro cyntaf a chyflym yr eil dro):
Here’s my version of the tune on the fiddle (once slow and once fast):