Llun trwy Garedigrwydd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor
Photograph courtesy of Archives and Special Collections, Bangor University
~~~~~~~~~~
Alaw o fath gwahanol i’r rhai cynt ar y blog yw ‘Garthyfog’. Mae hi’n dod o dudalen 2 o lawysgrif E. Ylltyr Williams, Bangor 2299 (darllenwch mwy am y llawysgrif yma) ac mae’r dyddiad o Mawrth 27ain 1867 arni. Diddorol nodi yw bod fferm o’r enw ‘Garthyfog’ yn bodoli yn agos i’r Bermo.
Mae hon yn emyn-dôn ac felly yn cynrychioli traddodiad tra gwahanol i’r alawon dawns, h.y. y capel a chrefydd. Fel yn y rhan fwyaf o emyn-donau, mae’r alaw wedi’i harmoneiddio ar gyfer pedwar llais. Ond mae yna fwy o leisiau wedi eu hychwanegu i’r alaw hon mewn pen inc (yn hytrach ‘na phensil gweddill y nodau). Y nodau gwreiddiol pensil yn unig sydd wedi eu cynnwys yn y fersiwn nodiant safonol isod.
Ar gyfer perfformio’r alaw mae’n werth gorffwys am ysbaid ar gord olaf yr hanner cyntaf (cord E fwyaf) a hefyd ar y cord olaf i gadw’n gyson â’r ffordd y perfformir emyn-donau fel arfer.
Diolch mawr i Gruff ab Arwel sydd wedi recordio ‘Garthyfog’ ar gyfer y blog gyda llais ag effeithiau. Nid yw ei fersiwn ef yn cynnwys y nodau ychwanegol ‘gyda phen inc’ chwaith.
~~~~~~~~~~
‘Garthyfog’ is a tune which is different to the rest on the blog. It’s found on page 2 of the Bangor 2299 manuscript, which is E. Ylltyr Williams’ manuscript (you can find more information about the manuscript here) and it’s dated March the 27th 1867. It’s interesting to note that a ‘Garthyfog’ Farm exists near Barmouth.
This is a hymn tune and so it represents the chapel and religion – a different type of tradition to the dance-style tunes so far. Like most hymn tunes, ‘Garthyfog’ is written for four voices. But more voices have been added to this tune in ink (as opposed to the pencil which is used in the rest of the notes). It’s the original pencil notes which have been included in the standard notated version below.
For performing this tune it’s worth adding a pause to the last chord of the first half (E major chord) and also the last chord, in keeping with the style in which hymns are usually performed.
A big thank you to Gruff ab Arwel for recording ‘Garthyfog’ for the blog using voice with effects. His version doesn’t include the ‘penned in’ notes either.
~~~~~~~~~~
Ewch yma i weld yr alaw mewn nodiant safonol/Click here to see the tune in standard notation: Garthyfog
Dyma nodiant abc o’r alaw/Here’s the melody in abc notation: Garthyfog
Dyma Gruff ab Arwel yn perfformio’r alaw gyda lleisiau ag effeithiau, os hoffech ddygsgu’r alaw wrth glust:
Here’s Gruff ab Arwel performing the tune using voice with effects, if you’d like to learn the tune by listening: