Disgrifiad byr o’r llawysgrifau sy’n cael eu crybwyll. Yn nhrefn eu rhifau galw yn archifau Prifysgol Bangor. / A short description of the manuscripts that are mentioned, in the order of their call numbers at Bangor University archives:

BMS/851

Llyfr Ffowc Roberts

Lluniau trwy garedigrwydd Archifau Prifysgol Bangor
Photographs courtesy of Bangor University Archives

Yn ôl yr ysgrifen ar y glawr y llyfr bach yma, llyfr ‘Alawon o Lyfr Ffowc Roberts (Ffowc Bach y canwr [Clegir])’ yw hwn. Mae’r llyfr yn llawysgrifen L.D. Jones (Roedd L.D. Jones hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Llew Tegid’, gwelir mwy o wybodaeth amdano yma).  Gallwch weld gwybodaeth am Ffowc Bach y Canwr a dreuliodd llawer o’i fywyd yn Clegir ger Llanrug, ar wefan y bywgraffiadur fan hyn. Mae hi’n gasgliad o ganeuon ac alawon sy’n debygol o fod wedi cael eu nodi yn ail hanner y 19eg ganrif.

According to the writing on the front of this little handwritten book, this is a book of tunes copied out of Ffowc Roberts’ book. Ffowc Roberts was also known as ‘Ffowc Bach y Canwr’ (Little Ffowc the singer) and you can read more about him here on the Welsh Biography Online website. The person who’s handwritten the book is noted as L.D. Jones (He was also known as ‘Llew Tegid’. See more information about him here). This is a small collection of songs and instrumental tunes, probably noted down in the 19th century.

 

BMS/2294

Maurice 10

Maurice 1

Lluniau trwy garedigrwydd Archifau Prifysgol Bangor
Photographs courtesy of Bangor University Archives

Yn ôl yr ysgrifen ar ddechrau’r llyfr yma, dyma gasagliad o alawon offerynol a nodwyd gan Maurice Edwards y ffidlwr yn 1778. Mae’r rhan fwyaf o alawon â theitlau iaith Gymraeg ond mae hefyd nifer o rhai a theitlau Saesneg, sy’n awgrymu dylanwad o draddodiadau arall ar yr alawon yng Nghymru ar y pryd. Dyma lun bach o bysgodyn y gwelwn y tu mewn i’r clawr:

According to the writing at the beginning of this little book, here’s a collection of instrumental tunes written noted by the fiddler Maurice Edwards in 1778. Most of the tunes have Welsh language titles but a fair few titles are in English, suggesting that many tunes at the time in Wales were influenced by other traditions. Here’s a picture of a small fish drawn inside the cover of the book:

Maurice 7

Mae’r nodiant yn y gyfrol yma yn glir tu hwnt am lawysgrif o’i hoed.
The notation in this manuscript is very clear, especially considering its age.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

BMS/2296

Yn ôl mynegai Wyn Thomas i Lawysgrifau Traddodiadol Cymru, ysgrifennwyd yr alawon yn yr ysgrif hon gan Robert Thomas o Gaernarfon ac mae hi’n dyddio o 1808. Mae dechrau’r gyfrol yn cynnwys copi o ddau lyfr sydd mewn print ond wedyn mae dwy adran yn llawysgrifen Robert Thomas – y cyntaf yn nodi alawon offerynnol Seisnig a Chymreig o’r cyfnod, a’r ail yn cynnwys anthemau crefyddol.

According to Wyn Thomas’ index to Welsh Traditional Manuscripts, this manuscript was written by Robert Thomas and comes from 1808. The volume begins with copies of two books in print but then two sections are in Robert Thomas’ hand – the first is a selection of English and Welsh instrumental tunes and the second contains religious anthems.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

BMS/2299

Llawysgrif gan E. Ylltyr Williams yw hon. Mae hi’n cynnwys tonau crefyddol yn ogystal ag alawon yn seiliedig ar ffurfiau dawns a oedd yn boblogaidd yn nifer o wledydd Ewrop. John Williams ‘Ioan Rhagfyr’(1740-1821) yw cyfansoddwr y darnau miniwét, gafót ac ymdeithganau. Mae’r dyddiad 1767 i’w weld ar waelod un o’r tudalennau.

This is E. Ylltyr Williams‘ manuscript. It includes religious hymn tunes and pieces based on dance forms that were popular at the time in many European countries. John Williams ‘Ioan Rhagfyr’(1740-1821) is the composer for most of these minuets, gavottes and marches. The date 1767 can be seen on the bottom of one of the pages.

Advertisement

One response »

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s