Tag Archives: Philip Ystwyth

Dolgelley Minuet

Standard

Dolgelley Minuet

Dolgelley Minuet
Lluniau trwy Garedigrwydd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor
Photographs courtesy of Archives and Special Collections, Bangor University

~~~~~~~~~~

Dyma ‘Dolgelley Minuet’ sydd ar dudalennau 2-3 o lawysgrif Bangor 2299, sef llawysgrif E.Ylltyr Williams (darllenwch fwy o wybodaeth am lawysgrif E. Ylltyr Williams yma).

Yn wahanol i nifer o alawon sydd wedi eu dewis ar y blog hyd yn hyn, mae hon yn alaw sydd yn dilyn tueddiad cyffredin mewn llawer o wledydd yn Ewrop, sef i greu darn newydd mewn un o ffurfiau dawns pobologaidd rhygwladol y cyfnod. Y genre a ddewiswyd yma yw’r miniwét. Mae’r miniwét yn ddawns sydd â’i gwreiddiau tebygol yn Ffrainc tua’r ail ganrif ar bymtheg. Mae hi’n ddawns mewn 3/4 gweddol araf.

Mae’n dweud ‘by John Williams’ ar ben yr alaw – ei chyfansoddwr oedd John Williams ‘Ioan Rhagfyr’(1740-1821).
.
Mae pum adran i’r ‘Dolgelley Minuet’; mae’r trydedd a’r pedwaredd yn amrywiadau o’r ddwy adran gyntaf, ac mae’r pumed yn llawn tripledi gan ddangos mwy o gymhlethdod.

~~~~~~~~~~

‘Dolgelley Minuet’ is found on pages 2-3 of the Bangor 2299 manuscript, which is E. Ylltyr Williams’ manuscript (you can find more information about the E. Ylltyr Williams manuscript here).

Differently to the tunes included on this blog so far, this is a melody that follows a common trend in many countries in Europe, which is to create a new piece with the structure of popular international dances of the time. The genre chosen here is the minuet. The minuet is a dance which probably has its roots in France about the 17th century. It’s quite a slow dance in 3/4.

It says ‘by John Williams’ on the top of the page – the tune’s composer was John Williams ‘Ioan Rhagfyr’(1740-1821)

There are five sections to the ‘Dolgelley Minuet’; the third and fourth are variations of the first two, and the fifth is full of triplets.

~~~~~~~~~~

Ewch yma i weld yr alaw mewn nodiant safonol/Click here to see the tune in standard notationDolgelley Minuet

Dyma nodiant abc o’r alaw/Here’s the melody in abc notationDolgelley Minuet

Dyma fi yn chwarae’r alaw ar y ffidil:
Here’s my version of the tune on the fiddle:

Advertisements

Ela Salmon

Standard

Ela Salmon
Llun trwy Garedigrwydd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor
Photograph courtesy of Archives and Special Collections, Bangor University

~~~~~~~~~~

Dyma ‘Ela Salmon’ sydd ar dudalennau 82-83 o lawysgrif Bangor 2296, sef llawysgrif Robert Thomas o Gaernarfon (darllenwch fwy o wybodaeth am lawysgrif Robert Thomas yma).

Mae’r alaw yn gwneud synnwyr yn gerddorol, gyda diweddglo’r adran 1af a’r 3ydd adran mwy neu lai’r un peth. Mae’r adrannau hefyd â strwythur cyweiriau cyfarwydd (tonydd-llywydd-tonydd).

Ond mae yna nifer o elfennau anghyffredin yn ‘Ela Salmon’; mae hi’n alaw hir o’i chymharu â rhai eraill o lawysgrifau’r cyfnod. Mae yna 12 bar yn yr adran gyntaf, 13 yn yr ail a 12 yn y drydedd, sydd yn strwythur anarferol. Mae’r alaw hefyd fel petai ddim yn setlo ar y cywair. Oherwydd yr elfennau yma, tybed a oedd swyddogaeth arall gan yr alaw, er enghraifft ar gyfer canu penillion?

Mae yna fersiwn tebyg iawn o ‘Ela Salmon’ i’w gweld yn llawysgrif Morris Edwards (Bangor 2294, t. 33) ble mae yna 4 bar ychwanegol yn yr adran olaf.

~~~~~~~~~~

‘Ela Salmon’ is found on pages 82-3 of the Bangor 2296 manuscript, which is Robert Thomas from Caernarfon’s manuscript (you can find more information about the Robert Thomas manuscript here).

This tune is logical, with the end of the 1st and 3rd sections more or less the same. The sections also follow a straightforward key structure (tonic-dominant-tonic).

But there are some unusual elements in ‘Ela Salmon’; it’s a long tune compared to others from similar manuscripts of the period. There are 12 bars in the first section, 13 in the second and 12 in the third, which is unusually inconsistent. The melody is as if it doesn’t sit right on the key. Because of these elements, I wonder if the tune had a different function, perhaps for singing ‘penillion'(verses)?

There’s a very similar version of this tune in the Morris Edwards manuscript (Bangor 2294, p. 33) where there are an extra 4 bars in the last section.

~~~~~~~~~~

Ewch yma i weld yr alaw mewn nodiant safonol/Click here to see the tune in standard notationEla Salmon

Dyma nodiant abc o’r alaw/Here’s the melody in abc notationEla Salmon

Dyma fi yn chwarae’r alaw ar y ffidil:
Here’s my version of the tune on the fiddle:

 

 

Corporation Cymdeithas

Standard

Corporation Cymdeithas
Llun trwy Garedigrwydd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor
Photograph courtesy of Archives and Special Collections, Bangor University

~~~~~~~~~~

Dyma ‘Corporation Cymdeithas’ sydd ar dudalen 87 o lawysgrif Bangor 2296, sef llawysgrif Robert Thomas o Gaernarfon (darllenwch fwy o wybodaeth am lawysgrif Robert Thomas yma).

Mae’n ymddangos fod yr alaw hon wedi cipio dychymyg nifer o gerddorion wrth i fersiynau eithaf gwahanol ohoni (ond gyda’r un syniad o ran siâp yr alaw) ymddangos mewn nifer o ffynonellau tebyg o’r cyfnod. Rhai enghreifftiau fyddai:
‘Corporation’ – Rhif 59 a 358 o gyfrol Alawon John Thomas (gol. Cass Meurig, Aberystwyth, 2004, Tudalennau 19 a 108)
‘Coporasion’ – Llawysgrif Morris Edwards (Archifau Prifysgol Bangor, Llsg. 2298, c.1778)

Mae’n ddiddorol y bod teitl ‘Corporation Cymdeithas’ ychydig yn wahanol i’r teitlau uchod – mae’n bosib y bod Robert Thomas wedi gwneud ymgais ar gyfieithu ‘Corporation’ i’r Gymraeg.

Yn ol Cass Meurig (gol. Cass Meurig, Aberystwyth, 2004, tud. 137), roedd yr alaw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer carolau ym mesur yr awdl-gywydd. Efallai y bod hyn yn egluro pam fod 10 bar yn yr ail hanner yn lle’r 8 a fyddai’n ddisgwyliedig.

Yn ôl defnydd arferol, rwyf wedi golygu y nodau minim ar ddiwedd pob cymal i fod yn grosiet a dot.

~~~~~~~~~~

This is ‘Corporation Cymdeithas’, which roughly translates to ‘Society Corporation’. It’s found on page 87 of the Bangor 2296 manuscript, which is Robert Thomas from Caernarfon’s manuscript (you can find more information about the Robert Thomas manuscript here).

It appears that this tune took the imagination of musicians at the time because many versions of it appear in similar sources. These vary largely but all have the same shape to the tune and a similar structure. Examples include:
‘Corporation’ – Nos. 59 and 358 of Alawon John Thomas (ed. Cass Meurig, Aberystwyth, 2004, Pages 19 and 108)
‘Coporasion’ – Morris Edwards’ manuscript (Bangor University Archives, Llsg. 2298, c.1778)

According to Cass Meurig (ed. Cass Meurig, Aberystwyth, 2004, p. 137), the tune ‘was used for Welsh carolau in the awdl-gywydd metre.’

To fit the usual use, I’ve edited the minim at the end of each phrase to be a dotted crotchet.

~~~~~~~~~~

Ewch yma i weld yr alaw mewn nodiant safonol/Click here to see the tune in standard notationCorporation Cymdeithas

Dyma nodiant abc o’r alaw/Here’s the melody in abc notationCorporation Cymdeithas

Dyma fi yn chwarae’r alaw ar y ffidil, os hoffech ddygsgu’r alaw wrth glust:
Here’s me playing the melody on the fiddle, if you’d like to learn the tune by listening:

 

 

Ffarwél Philip Ystwyth

Standard

Farwel Phillip Ystwyth
Llun trwy Garedigrwydd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor
Photograph courtesy of Archives and Special Collections, Bangor University

~~~~~~~~~~

Dyma alaw ‘Ffarwél Philip Ystwyth’ sydd ar dudalen 91 o lawysgrif Bangor 2296, sef llawysgrif Robert Thomas o Gaernarfon (darllenwch mwy o wybodaeth am lawysgrif Robert Thomas yma).

Rwyf wedi newid y teitl o’r un gwreiddiol sef ‘Farwel Philip Ystwyth’ i’r sillafiad modern o’r gair ‘Ffarwél’.

Wrth drawsgrifio’r alaw rwyf wedi ychwanegu llinell bar ym mar cyntaf y llinell olaf.

Ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng yr alaw hon ac alaw o’r un teitl a geir yng nghyfrol Alawon John Thomas (gol. Cass Meurig, Aberystwyth, 2004. Tud 46, rhif 152) gan ddangos y bod hon wedi bod yn alaw boblogaidd yn y 18fed ganrif ymysg cerddorion yng Nghymru.

~~~~~~~~~~

This melody is called ‘Farwel Philip Ystwyth’, which translates to ‘Farewell Philip Ystwyth’. It’s found on page 91 of the Bangor 2296 manuscript, which is Robert Thomas from Caernarfon’s manuscript (you can find more information about the Robert Thomas manuscript here).

While transcribing the tune, I’ve added a bar line in the first bar of the last line.

There are only a few slight differences between this tune and the melody of the same name that can be found in the Alawon John Thomas collection (ed. Cass Meurig, Aberystwyth, 2004. Page 46, no. 152). This shows that it was a popular tune amongst musicians in 18th century Wales.

~~~~~~~~~~

Ewch yma i weld yr alaw mewn nodiant safonol/Click here to see the tune in standard notation: Ffarwél Philip Ystwyth

Dyma nodiant abc o’r alaw/Here’s the melody in abc notationFfarwél Philip Ystwyth

Dyma fi yn chwarae’r alaw ar y ffidil, os hoffech ddygsgu’r alaw wrth glust:
Here’s me playing the melody on the fiddle, if you’d like to learn the tune by listening: